Ty Uchaf Penmachno

Ymgyrch Prynu Tafarn Cymunedol

Gwneud Bro Machno yn ddyffryn llewyrchus drwy sicrhau amwynderau lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Beth yw Cynnal Bro Machno?

Trosolwg byr…

Sefydlwyd Cynnal Bro Machno er mwyn ceisio sicrhau perchnogaeth y gymuned o dafarn Ty Uchaf/Yr Eagles ym Mhenmachno.

Er bod perchnogaeth gymunedol Ty Uchaf yn flaenoriaeth frys ar hyn o bryd, mae Cynnal Bro Machno hefyd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r materion yn ymwneud â thai fforddiadwy. Ein nod yw edrych am gyfleoedd i brynu ac adnewyddu eiddo lleol er mwyn gallu darparu tai fforddiadwy i aelodau o’n cymuned.

Rydym yn cael ein goruchwylio gan Gymdeithas Budd-daliadau Cymunedol sydd wedi'i chofrestru'n gyfreithiol o dan yr enw Cymdeithas Dai Bro Machno, sy'n cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Buddsoddi yn nyfodol Penmachno

Cais Perchnogaeth Gymunedol yr Eagles

Tafarn wledig draddodiadol, Yr Eagles yw calon cymuned Bro Machno go iawn. Yn 2025 ddaeth yr Eagles dan fygythiad o gau a fe ddoth yr gymuned ynghyd i geisio achub ein tafarn! Gan mai dyma'r unig dafarn yn y cwm, byddai cau yn cael effaith niweidiol enfawr ar drigolion lleol a busnesau fel ei gilydd.

Pam Oedd Hyn yn Bwysig?

  • Mae’r Eagles yn fwy na thafarn- mae’n ganolfan gymdeithasol, sy'n croesawu pobl leol ac ymwelwyr
  • By investing, you helped keep this vital space in community hands
  • Every share purchased strengthened Penmachnos resilience and heritage

Ond roedd angen EICH help CHI arnom ni!

Roedd angen i ni godi swm uchelgeisiol o £150,000i brynu adeilad a busnes y dafarn.

Wnaethom hyn drwy gyfranddaliadau cymunedol – gan roi cyfle i bawb fuddsoddi yn nyfodol y prosiect cyffrous hwn. £146,000.

Fedrwch dal i rhoi i'n hymdrechion codi arian, a byddai unrhyw gyfraniadau'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr.

Diweddariad Perchnogaeth Gymunedol

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi, o fis Awst 2026 ymlaen, fod yr holl gyllid bellach yn ei le ar gyfer symud ymlaen hefo perchnogaeth gymunedol o'r Eagles.

Llwyddodd Cynnal Bro Machno i godi ffigwr anhygoel o tua £470,000 drwy gyfuniad o’n cynnig cyfranddaliadau a chyllid grantiau o nifer o ffynonellau.

Aeth llawer iawn o waith caled ac ymdrech i gyflawni hyn, ac rydym yn ddiolch ofnadwy i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono.

O le ddaeth y pres?

  • £15,000 o Gronfa Cymunedol Eryri, gyda chefnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Llywodraeth Cymru
  • £90,000 o Gronfa Effaith Balchder Bro Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • £220,000 o Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
  • Hefyd £145,000 gan ein Cyfranddalwyr anhygoel

DIOLCH!

Cyfleoedd gyda Cynnal Bro Machno

RYDYM YN RECRIWTIO!

Rydym wrthi'n cynllunio ar gyfer y dyfodol ac yn dechrau ein rhaglen recriwtio.

Rydym yn awyddus i benodi "rheolwr tafarn a byncws" cyn gynted â phosib. Os oes gennych ddiddordeb, edrychwch ar ein tudalen “Swyddi”.

£0
Targed Codi Arian
£0
Raised

DIOLCH!

Daeth ein cynnig cyfranddaliadau i ben ar 4ydd Mai 2026

Hoffem ddweud DIOLCH FAWR i bawb a'n cefnogodd ac a fuddsoddodd yn ein cynnig cyfranddaliadau.

Mae eich cefnogaeth wedi ein galluogi i symud ymlaen â'n nod o gymryd perchnogaeth gymunedol o'r Eagles, Penmachno.

Er bod ein cynnig cyfranddaliadau bellach wedi cau, gallwch barhau i gyfrannu at ein hymgyrch a'n helpu i gadw'r Eagles ar agor…

Buddsoddi yn y dyfodol ……. Investing in the future ……….………….Buddsoddi yn y dyfodol ……. Investing in the future ……….………….

Y gwahaniaethau y byddwch chi'n eu gwneud

Creu dyfodol cynaliadwy i Bro Machno

Drwy gefnogi Cynnal Bro Machno byddwch yn sicrhau bod ein cymuned wych yn parhau i ffynnu, ac yn galluogi ymwelwyr i fwynhau croeso cynnes am genedlaethau i ddod…

  • Galluogi'r boblogaeth leol i ffynnu

  • Cynnal yr iaith a'r diwylliant Cymraeg

  • Darparu amwynderau i'r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd

  • Cefnogi'r economi leol, drwy swyddi, twristiaeth a chyfleoedd i aros yn y pentref

  • Tafarn fywiog sy’n golygu cymuned fywiog

Newyddion Diweddaraf

“Heno”

Cynnal Bro Machno recently featured on the programme “Heno” on S4C to highlight the campaign to purchase The Eagles.

You can watch the feature on our YouTube channel below….

Bydd ein herthyglau newyddion a'n diweddariadau diweddaraf yn ymddangos yma……

Ein Partneriaid