Amdan2026-02-05T16:43:44+00:00

Amdanom Ni

Ein Stori

Sefydlwyd Cynnal Bro Machno ym mis Hydref 2025 yn bennaf er mwyn achub ein tafarn leol, Ty Uchaf/Eagles gan geisio sicrhau na fydd y dafarn yn cau.

Daeth trigolion lleol ynghyd, dros gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus, er mwyn sefydlu endid a fyddai’n ein galluogi i fanteisio ar y cyfle i brynu’r dafarn a’i chynnal fel ased cymunedol hanfodol.

Erbyn diwedd mis Hydref penodwyd swyddogion, a ffurfiwyd Pwyllgor o dan yr enw ‘Cynnal Bro Machno. Daeth y grŵp yn rhan o gymdeithas budd cymunedol o’r enw cymdeithas dai bro Machno cyfyngedig.Fel endid cyfreithiol, a reoleiddir gan yr FCA, mae hyn yn golygu ein bod bellach yn gallu dilyn ffynonellau cyllid i'n helpu i ariannu pryniant Yr Eagles.

Bro Machno

Wedi’i leoli yn harddwch parc cenedlaethol Eryri, mae Bro Machno yn cwmpasu pentrefi Penmachno, Cwm Penmachno a’r ardaloedd cyfagos. Yn hanesyddol mae’r ardal efo cysylltiad cryf efo’r diwydiant llechi ac ar ddechrau’r 20fed ganrif roedd y chwareli yng Nghwm Penmachno yn gyflogwyr pwysig iawn yn y fro. Yn y cyfnod sydd ohoni heddiw, ac oherwydd lleoliad gwledig yr ardal, does dim cymaint o gyfleodd cyflogaeth yn y plwyf. Er hynny, oherwydd yr adnoddau naturiol sydd yma a’r llwybrau beicio mynydd mae’r ardal yn denu llawer o dwristiaid ac mae diwydiant twristiaeth yn bwysig yn yr ardal. Mae’r boblogaeth leol, a amcangyfrif i fod rhwng 600-700 o drigolion yn dibynnu’n fawr ar siop y pentref a’r unig dafarn, sef yr Eagles, sydd wedi ei leoli yng nghanol y pentref.

Mae’r Ty Uchaf yn leoliad poblogaidd iawn gyda twristiaid, ond mae hefyd yn rhan annatod o gymuned Bro Machno. Mae’n le canolog i bobl ddod i gymdeithasu ac mae’n fan croesawgar i bob aelod o’r gymuned. Mae gwersi Cymraeg, nosweithiau gwerin, cwisis er budd elusennau lleol a llawer mwy o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn nhafarn Y Ty uchaf. Oherwydd hyn,mae Cynnal Bro Machno wedi ymrwymo i sicrhau bod yr adnodd hanfodol yma yn parhau i fod yn rhan annatod o’n cymuned. Gallwch ddarllen mwy am hanes Ty uchaf ei hun yma

Cwrdd â'r tîm

Gadewch inni gyflwyno rhai o swyddogion ac aelodau pwyllgor Cynnal Bro Machno i chi….

Colin Pugh

Cadeirydd

Colin Pugh

cadeirydd@cynnalbromachno.cymru

Gerwyn Edwards

Cadeirydd

Gerwyn Edwards

cadeirydd@cynnalbromachno.cymru

Tanya Neilson

Trysorydd

Tanya Neilson

trysorydd@cynnalbromachno.cymru

Ceri Wyn Morris

Ysgrifenydd

Arfon Hughes

ysgrifenydd@cynnalbromachno.cymru

Cwestiynau Cyffredin

Rhai cwestiynau cyffredin am ein cynnig cyfranddaliadau a mwy……

Am ba hyd y bydd y cynnig cyfranddaliadau yn para?2026-02-14T02:17:27+00:00

Mae cynnig cyfranddaliadau’r Eagles yn agor ar 14 Chwefror 2026 a disgwylir iddo bara tan ddiwedd mis Ebrill 2026.

Beth yw'r buddsoddiad lleiaf y gallaf ei wneud?2025-12-05T19:51:36+00:00

Y buddsoddiad lleiaf y gellir ei wneud fesul cyfranddaliwr yw £50. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn gwneud y cynllun yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl.

Oes angen i mi fyw'n lleol i fuddsoddi?2025-12-05T19:51:44+00:00

Na, does dim rhaid i chi fyw ym Mhenmachno nac yn y cyffiniau. Mae'r cynllun hwn ar agor i unrhyw un yn unrhyw le!

Sut alla i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect?2025-12-05T19:51:54+00:00

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect drwy ymweld â ni yma ar y wefan, drwy gofrestru i’n cylchlythyr neu drwy ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Beth yw fy hawliau pleidleisio ar ôl buddsoddi?2025-12-05T19:52:03+00:00

Bydd gan bob cyfranddaliwr hawliau pleidleisio cyfartal. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth maes o law.

Beth yw manteision dod yn gyfranddaliwr?2025-12-05T19:52:11+00:00

Byddwch yn helpu i ddiogelu dyfodol y dafarn bentref hanesyddol hon fel rhan annatod o'r gymuned leol. Gobeithiwn y bydd rhagor o fuddion hefyd yn cael eu cyhoeddi wrth i ni symud ymlaen

Beth os na fyddwch chi'n gwerthu digon o gyfranddaliadau i ariannu'r pryniant?2025-12-05T19:52:18+00:00

Os na fyddwn yn llwyddo i gyrraedd ein targed gofynnol drwy ein cynnig cyfranddaliadau, bydd yr holl arian a addawyd yn cael ei ddychwelyd i fuddsoddwyr.

Oes gennych chi gynlluniau i ddatblygu'r dafarn?2025-12-05T19:52:27+00:00

Yn y cyfnod cynnar hwn, y flaenoriaeth yw caffael y dafarn yn y lle cyntaf. Mae datblygiad y busnes yn y dyfodol eisoes yn cael ei drafod a chyhoeddir y wybodaeth ddiweddaraf maes o law.

Os na allwch ddod o hyd i atebion i'ch ymholiadau yn yr adran hon, yna mae croeso i chi gysylltu â Cynnal Bro Machno yn uniongyrchol yma…

Ein Partneriaid

Mynd i'r Top