FFURFLEN ENWEBU CYFRANDDALWYR YR EAGLES AR ADEG MARWOLAETH
- Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i roi gwybod i Cynnal Bro Machno sut yr hoffech i ni drin eich cyfranddaliadau pe baech yn marw.
- Gallwch enwebu person (16 oed neu hŷn) neu sefydliad yr hoffech i'ch cyfranddaliadau gael eu trosglwyddo iddo ar eich marwolaeth.
- Fel arall, gallwch adael gwerth eich cyfranddaliadau yn ôl i Cynnal Bro Machno.
- Dim ond i'r £5,000 cyntaf o gyfalaf cyfranddaliadau y mae enwebiadau'n berthnasol: rhaid i unrhyw gyfran o'ch cyfalaf cyfranddaliadau dros £5,000 gael ei thrin gan eich ysgutorion gan gyfeirio at brofiant.
- Os byddwch yn dewis peidio ag enwebu unrhyw un, neu ar gyfer y gyfran o gyfalaf cyfranddaliadau uwchlaw £5,000, bydd eich ysgutorion yn delio â'r cyfranddaliadau hyn fel rhan o weinyddiaeth eich ystâd.
- Bydd y Gymdeithas yn parchu eich dymuniadau cyn belled ag y mae'r gyfraith, ein Rheolau a'n Polisïau yn caniatau.
Ffurflen Arlein
Ein Partneriaid







