Eagles Penmachno Share Offer opens on Saturday 14th February 2026……..Cynnig cyfranddaliadau Yr Eagles yn agor ar Dydd Sadwrn 14eg Chwefror 2026……..The Best Pub Is An Open Pub……..Y Tafarn Gora’ yw Tafarn ‘GoredEagles Penmachno Share Offer opens on Saturday 14th February 2026……..Cynnig cyfranddaliadau Yr Eagles yn agor ar Dydd Sadwrn 14eg Chwefror 2026……..The Best Pub Is An Open Pub……..Y Tafarn Gora’ yw Tafarn ‘Gored
Bydd ein cynnig cyfranddaliadau yn agor yn fuan iawn. Yn y cyfamser gallwch gofrestru eich diddordeb, addo buddsoddiad bwriadedig neu ddarllen mwy isod….
Buddsoddwch yn nyfodol Penmachno
Buddsoddwch yn yr Eagles
Mae Cynnal Bro Machno – Cymdeithas Budd Cymunedol newydd a sefydlwyd gan drigolion lleol – yn lansio cynnig cyfranddaliadau cymunedol er mwyn prynu tafarn Yr Eagles a’i redeg fel busnes fydd yn perthyn i’r gymuned, gan sicrhau dyfodol y dafarn yn y pentref.
Pam mae hyn yn bwysig?
- Mae’r Eagles yn fwy na thafarn - mae’n ganolfan gymdeithasol, sy'n croesawu pobl leol ac ymwelwyr
- Bydd eich buddsoddiad yn cadw’r lle hanfodol yma mewn dwylo lleol
- Bydd pob cyfran yn helpu i ddiolegu treftadaeth a dyfodol Penmachno
Buddion Cynnig Cyfranddaliadau....
PERCHNOGAETH CYMUNEDOL
Penderfyniadau’n cael eu gwneud yn lleol, er budd y gymuned
DIOGELU TREFTADAETH
Sicrhau dyfodol y dafarn fel lle croesawgar i genedlaethau’r dyfodol
CEFNOGI'R ECONOMI LEOL
Swyddi, twristiaeth a chyfleoedd yn aros yn y dyffryn
CYNHWYSOL A DEMOCRATAIDD
Un aelod, un bleidlais – mae pob llais yn cyfri
EFFAITH GYMDEITHASOL
Tafarn fywiog sy’n golygu cymuned fywiog
Sut Mae’n Gweithio
- Bydd y buddsoddiad lleiaf yn £50 – mae'n agored i bawb
- Mae eich buddsoddiad yn fwy na chyllid – mae’n ymrwymiad i ddyfodol Penmachno
- Fel Cymdeithas Budd Cymunedol, bydd unrhyw arian dros ben yn cael ei ail-fuddsoddi er lles y gymuned
- Gall cyfranddalwyr dderbyn llog ar eu buddsoddiad yn y dyfodol
Addawch eich cefnogaeth….
Bydd ein cynnig cyfranddaliadau yn agor ar Dydd Sadwrn 14eg Chwefror 2026
Bydd ein cynnig cyfranddaliadau yn agor ar Dydd Sadwrn 14eg Chwefror 2026. Yn y cyfamser, hoffem gael syniad o lefel y gefnogaeth yr ydym yn debygol o'i hennill yn ein hymgyrch i GADW'R EAGLES AR AGOR. Os ydych chi'n hapus i nodi eich bwriad i fuddsoddi, byddai'n cael ei werthfawrogi'n fawr.
Bydd cyfranddaliadau yn costio £1 yr un, gyda buddsoddiad lleiaf o £50 a gellir ei brynu gan grwpiau ac unigolion fel ei gilydd. Mae' buddsoddiad uchaf i'w gadarnhau.
Yn yr un modd, os ydych chi'n bwriadu buddsoddi yn y prosiect ond yn ansicr ynghylch swm y cyfraniad posibl ar hyn o bryd, byddem wrth ein bodd yn gallu cofnodi eich diddordeb. Bydd yr holl adborth yn ein helpu yn ein hymdrechion i sicrhau cyllid i gaffael perchnogaeth y dafarn. Diolch.
Ta waeth faint o gyfranddaliadau a brynir, mae pob buddsoddwr yn cael un bleidlais ddemocrataidd yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Cynnal Bro Machno.
Os ydych chi'n hapus i gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen isod…..
Addewid i fuddsoddi
Ein Partneriaid





